Bwydlen Ysgol

Mae Bwydlen Ysgolion Cynradd Gwynedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 . Ac wedi’i gymeradwyo gan Gydlynydd Bwyd Ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae diod o ddŵr ar gael i bawb amser cinio. Mae ffrwythau ffres ar gael bob dydd fel dewis yn lle pwdin. Dylai bara (heb fenyn na margarin) fod ar gael drwy gydol amser cinio. Bydd tatws heb olew yn cael eu cynnig fel dewis yn lle sglodion a thatws rhost. Rydym yn paratoi’r bwyd o’r cynhwysion craidd ac nid ydym yn defnyddio bwydydd y gwyddys eu bod yn cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig.

Cliciwch yma am Bwydlen Ysgolion Cynradd