Annwyl Gyfeillion,
‘Addysgu a Dysgu Gyda’n Gilydd’
Carwn estyn croeso cynnes i chi a’ch plentyn i’r ysgol gartrefol hon ac edrychwn ymlaen at gysylltiad hapus a buddiol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Agorwyd drysau’r adeilad newydd ym mis Mawrth 2012 ac ar hyn o bryd mae’r ysgol yn gartref i 400 o ddisgyblion, oll yn blant arbennig iawn. Mae fy ngweledigaeth i o Ysgol Yr Hendre yn rhoi anghenion y plant uwchlaw popeth arall, ac rwy’n hollol argyhoeddedig fod y disgyblion yn haeddu’r cyfleoedd addysgol gorau y gallwn eu darparu iddynt.
Rwyf am i’r ysgol hon fod yn ysgol liwgar a modern sy’n parchu ei hanes a’i diwylliant, ond sydd yn symud ymlaen yn bwyllog ond penderfynol tuag at ragoriaeth, i baratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion.
Ein nod yn yr ysgol yw darparu addysg a phrofiadau o’r ansawdd uchaf i ysbrydoli pob plentyn i lwyddo beth bynnag eu gallu, cefndir a’u natur. Trwy gynnig safon uchel o addysg, profiadau cyfoethog oddi fewn a thu allan i’r dosbarth mewn awyrgylch sy’n hapus, diogel a gofalgar byddwn yn sicrhau bod ein disgyblion yn datblygu’r sgiliau i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymdeithas ac yn datblygu i’w potensial yn llawn.
Credaf fod bob disgybl cyfwerth â'i gilydd ond dwi hefyd yn derbyn bod plant yn wahanol a chanddynt yr hawl i lwyddo mewn gwahanol ffyrdd. Parchaf bob disgybl o bob rhyw, lliw a chred a cheisiaf ddysgu'r plant i ddatblygu trwy barchu cred a diwylliant eraill yn ogystal ag ennyn parch at eu diwylliant eu hunain.
Rwyf am i’r cwricwlwm eu hysgogi! Cwricwlwm sy’n eang ac yn llawn diddordeb a phrofiadau i’r plant. Cwricwlwm a wnaiff roi’r cyfle iddynt adael Ysgol Yr Hendre yn ddysgwyr gydol oes, sy’n gwbl ddwyieithog ac sydd â’r sgiliau academaidd ac emosiynol i dderbyn unrhyw her fydd gan fywyd yn yr 21ain Ganrif i’w gynnig iddynt.
Amcanwn i’r plant fod yn hapus, caredig, yn driw i’w gilydd a chael llu o brofiadau cyfoethog fel eu bod yn datblygu yn feddyliol a chymdeithasol. Ceisiwn bopeth sydd orau mewn addysg gynradd. Teimlwn y dylai rhieni a’r gymuned fod yn rhan o’r ysgol ac y cydweithiwn i sicrhau'r addysg orau i’r plant fel eu bod yn llwyddo i gyflawni eu potensial unigryw eu hunain.
Partneriaeth yw addysg! Partneriaeth a pherthynas agos rhwng y plant, rhieni, staff a’r llywodraethwyr i sicrhau llwyddiant a hapusrwydd eich plentyn. Trwy gydweithredu hyderwn y bydd cyfnod eich plentyn gyda ni yn un hapus ac y bydd yn datblygu i’r eithaf yn addysgol a chymdeithasol. Gyda’n gilydd, mi fyddwn yn gryfach!
Cofion Cynnes
Kyle Jones
Pennaeth