Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, felly fe'ch anogwn i ddarllen y polisi hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch:
Pwy ydym ni:
Mae Ysgol yr Hendre ('ni') yn casglu, defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi fel ‘rheolydd data’. Wrth wneud hynny, cawn ein rheoleiddio gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol sy'n weithredol ledled yr Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolwr data' am y wybodaeth bersonol honno er dibenion y cyfreithiau hynny.
Gwybodaeth bersonol am ddisgyblion yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio:
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion am y dibenion a ganlyn:
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio. Dyma ble rydym yn gwneud penderfyniad yn awtomatig amdanoch chi heb ymyrraeth ddynol.
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Yn ogystal, yn gysylltiedig ag unrhyw ddata categori arbennig:
Y rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Casglu Gwybodaeth am Ddisgyblion:
Rydym yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion drwy ffurflenni cofrestru wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac rydym yn derbyn peth data drwy Common Transfer File (CTF) os yw plentyn yn trosglwyddo atom o ysgol arall.
Er bod y rhan fwyaf o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn hanfodol, bydd peth gwybodaeth yn cael ei darparu ar sail wirfoddol.
Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Storio Data am Ddisgyblion:
Rydym yn cadw data am ddisgyblion yn ddiogel am gyfnodau penodol o amser fel y dangosir yn ein rhestr cyfnodau cadw. Am ragor o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, ewch i’r polisi diogelu data ar ein gwefan www.ysgolyrhendre.cymru neu gofynnwch am gopi gan Bennaeth yr Ysgol.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion:
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan:
|
|
Cwmnïau perthnasol sy'n hyrwyddo ac yn gweinyddu profiadau dysgu ein disgyblion:
|
|
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd:
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a'n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol ac yn monitro cyrhaeddiad addysgol.
Mae'n ofynnol i ni gasglu data dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011.
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n Hawdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011.
Pandemig COVID-19 2020:
Efallai na fydd yn bosib bob amser i adlewyrchu'r holl ddefnyddiau newydd neu newidiol a wneir o ddata personol a allai ddigwydd fel ymateb i'r Pandemig COVID-19.
Mae'r data personol y gellir ei rannu yn cynnwys:
Sail Gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol:
Mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ddefnyddio awdurdod swyddogol a ymddiriedwyd i'r rheolydd (Erthygl 6(1)GDPR)
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (rhif 2) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i fesurau rhesymol gael eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafirws ar fangre sy'n agored i'r cyhoedd ac ar unrhyw fangre lle mae gwaith yn digwydd.
Rhannu eich data personol:
Yn ystod Pandemig COVID-19, efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda:
Cais i gael mynediad i'ch data personol:
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad i gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch ag un o'r isod:
Pennaeth, Ysgol Yr Hendre, Ffordd Cae Phillips, Caernarfon, Gwynedd. LL55 2AT |
Swyddog Diogelu Data Ysgolion, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Mae gennych hefyd yr hawl i:
Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi godi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy https://ico.org.uk/concerns
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn:
Mae'n bosib y bydd angen i ni ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfnodol, felly, argymhellwn eich bod yn ailymweld â'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2020.
Cyswllt:
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch ag un o'r isod:
Pennaeth, Ysgol Yr Hendre, Ffordd Cae Phillips, Caernarfon, Gwynedd. LL55 2AT |
Swyddog Diogelu Data Ysgolion, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |